Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA73
Teitl: The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) (No.2) Regulations 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Bydd y Rheoliadau drafft hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010 i gynnwys trosi Cyfarwyddeb 2009/126/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ar Gam II adfer anwedd petrol wrth lenwi cerbydau modur â thanwydd mewn gorsafoedd petrol.
Materion Technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
1. Nid yw’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud yn ddwyieithog.
[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar hyn o bryd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Rhagfyr 2011
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2011
Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o'r darpariaethau yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 O.S. 2010/675 i drosi'r Gyfarwyddeb ar Gam II adfer anwedd petrol wrth ail-lenwi cerbydau modur mewn gorsafoedd petrol (Cyfarwyddeb 2009/126/EC). Mae gofynion Cam I o'r Gyfarwyddeb ar adfer anwedd petrol (Cyfarwyddeb 1994/63/EC ar reolaeth allyriadau cyfansoddyn organig anweddol o ganlyniad i storio petrol a'i ddosbarthu o derfynellau i orsafoedd petrol) eisoes wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010.
Mae'r drefn Trwyddedu Amgylcheddol yn rhesymoli rhannau gweithdrefnol swp o ddeddfwriaeth sy'n eithriadol o dechnegol a chymhleth. Mae wedi symleiddio gweithrediad y system drwyddedu y mae diwydiant a rheoleiddwyr yn gweithio odani heb gyfaddawdu mewn unrhyw fodd safonau amgylcheddol neu safonau iechyd dynol. Canlyniad hyn yw symleiddio'r cymhlethdod yr oedd diwydiant a rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ei wynebu o'r blaen.
Mae sicrhau'r newidiadau hyn drwy offerynnau cyfansawdd a wneir ynghyd â'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyson â'r nod o symleiddio y cyfeirir ato uchod. Mae'r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleihau anghyfleustra a dryswch posibl i'r rheini y mae'r Rheoliadau'n effeithio arnynt, yn enwedig gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd (sy'n rheoleiddiwr) yn gorff trawsffiniol. Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Prydain. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na chael ei wneud, yn ddwyieithog.